Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer fferm solar newydd yn Larnog ym Mro Morgannwg

Cyhoeddwyd 03/12/2025   |   Diweddaru Diwethaf 27/07/2026

Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer fferm solar newydd yn Larnog ym Mro Morgannwg

Mae Trydan Gwyrdd Cymru, cwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn lansio ymgynghoriad â phobl leol ynghylch ei gynigion ar gyfer fferm solar newydd ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn Larnog, rhwng Sili a Phenarth ym Mro Morgannwg. 

Byddai'r fferm solar yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau ynni trwy ddarparu tua 35MW o drydan gwyrdd, digon i bweru tua 13,800 o gartrefi. 

Ochr yn ochr â chynhyrchu ynni solar glân, gwyrdd, mae gan Trydan Gwyrdd Cymru uchelgeisiau i wella natur ar y safle, trwy gyfoethogi a chreu cynefinoedd ar gyfer gwenyn, pryfed, adar a mamaliaid, gwella mynediad ar hyd a lled y safle i gerddwyr a diogelu Llwybr Arfordir Cymru. 

Gan fod Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, bydd yr elw a gynhyrchir yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru a gellir ei fuddsoddi'n ôl i mewn i wasanaethau cyhoeddus. 
Dywedodd Mark Roberts, Rheolwr Prosiect yn Trydan Gwyrdd Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at siarad â thrigolion lleol ac adeiladu perthnasoedd cryf o fewn y gymuned. Ein hymrwymiad yw gwrando'n ofalus, ateb cwestiynau, a bwydo'r hyn a ddysgwn yn ôl i gam nesaf y broses ddylunio.

“Rydyn ni’n archwilio ffyrdd arloesol o wella ein safleoedd, fel eu bod yn gweithio'n gytûn ar gyfer pobl leol a'r cynefinoedd cyfagos.” 

Bydd tîm Trydan Gwyrdd Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio lleol a fydd yn cynnwys byrddau gwybodaeth am y prosiect a mapiau. 

Cynhelir y digwyddiadau yn: 

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 23 Ionawr 2026. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.trydanlarnog.wales.