Cwestiynau cyffredin

Trydan yw'r unig ddatblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru gyda ffocws unigol ar gyflawni dros Gymru.

Un o’i brif nodau yw datblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040 a chynnig buddion i'n cymdeithas, ein hamgylchedd, a'n heconomi, i bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.

Ydyn, maen nhw'n gallu gweithio hyd yn oed pan mae'n gymylog. Ym mis Tachwedd 2025, roedd pŵer solar yn bodloni 13.9% o alw trydan y DU.[1] 

[1] https://www.energydashboard.co.uk/live

Mae paneli solar wedi'u cynllunio i amsugno cymaint o olau â phosibl ac i beidio â'i adlewyrchu. Gellir cynhyrchu llewyrch fel adlewyrchiad uniongyrchol o'r haul o wyneb y panel ffotofoltäig solar. Gall sgrinio gyda choed a gwrychoedd fod yn effeithiol iawn wrth helpu i osgoi llewyrch a fflachiadau.

Mae rhywfaint o sŵn yn cael ei gynhyrchu ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu, o'r traffig adeiladu a'r gwaith adeiladu ei hun, fel gosod y ffrâm sy'n cynnal y paneli solar i mewn yn y ddaear.

Mewn ymgynghoriad â Chyngor Bro Morgannwg, rydym wedi paratoi Asesiad o Effaith Sŵn fel rhan o ddogfennau drafft y cais cynllunio.

Os bydd y cynnig yn cael caniatâd cynllunio, byddai'r gwaith adeiladu yn cymryd tua 6-9 mis.

Rydym wedi ystyried y golygfeydd o eiddo cyfagos yn ein dyluniad cynnar ar gyfer y safle. Yn ogystal â gosod paneli’n ofalus, bydd coed, gwrychoedd a seilwaith presennol yn cuddio llawer o'r golygfeydd tuag at y paneli solar.

Mewn ymgynghoriad â Chyngor Bro Morgannwg, rydym wedi paratoi Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol fel rhan o ddogfennau drafft y cais cynllunio.

Ydy, mae'r tir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i dyfu cnydau, er nad yw wedi'i ddosbarthu fel tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas. Mae'r tir ar y safle wedi'i ddosbarthu fel Gradd 3b a 4 o dan y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, sy'n golygu ei fod o ansawdd cymedrol i wael ar gyfer cynhyrchu cnydau. Maerhai ardaloedd o'r safle'n cael eu defnyddio ar gyfer cnydau (gwenith a haidd) ar hyn o bryd.

Yn wahanol i fathau eraill o ddatblygiad, nid yw ffermydd solar yn tarfu ar y ddaear fel na ellir gwrthdroi’r effaith. Mae ffermydd solar yn benthyg y tir, dros dro yw’r newid mewn defnydd tir, ac mae’n bosibl ei wrthdroi. Gan fod y tir amaethyddol o dan fferm solar mewn gwirionedd yn cael ei adael yn fraenar, gall iechyd y pridd wella. Yn dilyn oes weithredol y datblygiad, mae'r tir yn gallu dychwelyd i'w ddefnydd gwreiddiol mewn cyflwr gwell.[1]

[1] Solar Energy UK. 2022. Sesiwn Briffio Ynni Solar Cymru.

Byddwch. Bydd yr holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n croesi'r safle yn parhau i fod ar agor tra bydd y fferm solar ar waith.

Rydym yn gwybod bod yr ardal yn boblogaidd ymhlith cerddwyr. Rydym wedi ystyried ffyrdd o wella'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus ledled y safle, gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn parhau i fod yn hygyrch ac ar agor. Rydym yn cynnig nifer o welliannau; er enghraifft, ail-gyfeirio llwybr troed cyhoeddus L1/5/2 yng ngogledd-ddwyrain y safle drwy berllan gymunedol newydd a dôl blodau gwyllt, a rhoi wyneb newydd ar lwybrau troed cyhoeddus sy'n croesi'r safle.

Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y paneli solar a'r holl seilwaith arall o'r safle yn ddiogel ar ddiwedd oes y prosiect. Byddwn yn nodi ein cynlluniau datgomisiynu yn ein cais cynllunio drafft.

Mae paneli solar wedi'u gwneud yn bennaf o ddeunyddiau fel alwminiwm, copr a gwydr. Mae gweithdrefnau ailgylchu sefydledig ar gyfer y deunyddiau hyn, ac mae'n dechnegol bosibl ailgylchu'r rhan fwyaf o banel solar. Mae'r diwydiant yn gweithio ar brosesau i sicrhau hyfywedd masnachol ailgylchu a chynyddu cyfradd, ac ystod, y deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu dros amser.[1]

[1] https://solarenergyuk.org/ 

Bydd y trydan a gynhyrchir yn Fferm Solar Larnog yn mynd i'r Grid Cenedlaethol drwy'r rhwydwaith grid dosbarthu lleol. O'r fan honno bydd yn mynd i ble mae'r galw, a allai fod yn lleol, neu ymhellach i ffwrdd yn y DU.