Darllenwch gylchlythyr diweddaraf Glyn Cothi
Darllenwch mwy
Beth ydym ni’n ei gynnig?
© Crown copyright (2022) Cymru Wales
Rydym yn cynnig fferm solar newydd sy'n gallu cynhyrchu hyd at 35 MW o drydan gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys:
- Paneli ffotofoltäig solar (PV) wedi'u gosod ar y ddaear
- Is-orsaf ar y safle
- System Storio Ynni Batri (BESS)
- Seilwaith cysylltiedig arall
Rydym wedi ystyried y safle'n ofalus er mwyn llywio ein dyluniad drafft cynnar. Yn gyntaf, edrychom ar ffin gyfan y safle, sydd i gyd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, ac asesu pa mor addas fyddai i'w ddefnyddio fel fferm solar. Fe wnaethom asesu'r dopograffeg, amwynder gweledol o eiddo a Llwybr Arfordir Cymru, yr angen i osgoi asedau treftadaeth ac archeolegol, dynodiadau tir a choetir, coed a gwrychoedd presennol.
Wrth ddylunio cynllun y safle, rydym wedi ystyried eiddo a nodweddion presennol, yn ogystal ag Ysgol newydd Llyn Derw, ystâd dai Fferm Cosmeston Uchaf, a Llwybr Teithio Llesol newydd Sili i Cosmeston.
Mae ystyried yr holl ffactorau hyn wedi arwain at ddyluniad cryno, wedi'i leoli yn ardaloedd canolog a gorllewinol ffin y safle.
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)
Mae asesu effeithiau amgylcheddol posibl yn rhan allweddol o'r broses gynllunio. Byddwn yn cyflwyno Cais Sgrinio Asesiad Effaith Amgylcheddol i Gyngor Bro Morgannwg gan mai nhw yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Pwrpas y cais hwn yw penderfynu a oes angen Datganiad Amgylcheddol i gefnogi'r cais cynllunio. Yn ogystal, mae'n rhoi cyfle i gytuno ar unrhyw arolygon ac asesiadau penodol y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gofyn i ni eu cynnal.
Bydd angen i ni ddarparu adroddiadau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
- Yr effaith ar y dirwedd a'r effaith weledol
- Bioamrywiaeth
- Dŵr a pherygl llifogydd
- Treftadaeth ddiwylliannol
- Trafnidiaeth a mynediad
- Llewyrch a fflachiadau
- Sŵn a dirgryniad
Cyflwynir y wybodaeth hon yn y cais cynllunio drafft, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio y flwyddyn nesaf.
Defnydd tir
Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ffermio ar gyfer cnydau. Fe'i dosbarthir fel Gradd 3b a 4 o dan y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, sy'n golygu ei fod o ansawdd cymedrol i wael ar gyfer cynhyrchu cnydau.
Rydym yn archwilio'r cyfle i greu cynefin glaswelltir a phori anifeiliaid yn y caeau lle mae'r paneli PV wedi'u lleoli. Byddai hyn o fudd i'r tir, yn ogystal ag arallgyfeirio'r arferion ffermio ar draws y safle.
Gwella natur
Yn ogystal â chyfrannu at nod sero net Cymru ar gyfer 2050, mae gan Fferm Solar Larnog y potensial i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol. Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon eraill sydd â diddordeb i gyflawni buddion amgylcheddol.
Ein nod yw gofalu am natur ar y safle drwy:
- Gyfoethogi bioamrywiaeth yn weithredol ar draws y safle, drwy wella cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd. Drwy blannu mwy o wrychoedd a choed, ein nod yw cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, fel pathewod, ystlumod sy'n teithio, adar, gwenyn, pryfed, ymlusgiaid a mamaliaid.
- Annog y boblogaeth leol o wenyn ymhellach drwy ddatblygu banciau gwenyn.
- Osgoi pob ardal o goetir yn ein dyluniad, gan gynnwys y rhai sydd â Gorchmynion Cadw Coed.
- Osgoi pob Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur yn ein dyluniad.
- Gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i ddatblygu mesurau ecolegol i ategu'r Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur y gellir eu canfod ar y safle, er enghraifft drwy greu pentyrrau cynefinoedd, rheoli rhywogaethau ymledol a chreu banciau chwilod. Os oes gennych syniadau sut y gallwn ni wella natur ar y safle, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau amgylcheddol a chymunedol lleol.
Gwella mynediad
Rydym yn gwybod bod yr ardal yn boblogaidd gyda cherddwyr sy'n mwynhau Llwybr Arfordir Cymru a Hawliau Tramwy Cyhoeddus eraill ger y safle. Rydym yn archwilio cyfleoedd i wella'r rhwydweithiau Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws y safle. Rydym yn ystyried y ffordd orau o gynnal natur agored a chysylltedd ar hyd llwybrau troed wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.
Os ydych chi'n defnyddio'r llwybrau troed lleol, rydym yn croesawu eich syniadau ar gyfer gwella mynediad o amgylch y safle.
Cysylltu â’r grid
Mae gennym gynnig am gysylltiad grid gan y Grid Cenedlaethol i gysylltu Fferm Solar Larnog ag Is-orsaf Gynradd Penarth. Rydym yn disgwyl y byddai'r cysylltiad drwy geblau tanddaearol.
Ni fydd y cysylltiad grid yn rhan o'n cais cynllunio ar gyfer Fferm Solar Larnog gan y bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y darparwr cyfleustodau o dan hawliau datblygu a ganiateir.
Cymdeithasol ac economaidd
Gan fod Trydan yn eiddo i Lywodraeth Cymru, bydd y refeniw a gynhyrchir gan y prosiect yn cyfrannu at gyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru, gan gefnogi buddiannau ac anghenion pobl Cymru. Mae Trydan yn agos at y prosiectau rydym yn eu hyrwyddo, ac wedi ymrwymo i weithio â chymunedau lleol, grwpiau a chynrychiolwyr, i lunio'r prosiectau a'r amrywiaeth o fuddion posibl y gallant eu cyflawni, o fuddion amgylcheddol a bioamrywiaeth i gyllid ar gyfer blaenoriaethau lleol.
Byddwn yn dechrau trafod cyfleoedd gyda thrigolion lleol a chynrychiolwyr yn ystod ein digwyddiadau ymgynghori.
Y broses gynllunio
Byddwn yn gwneud cais i Gyngor Bro Morgannwg am ganiatâd cynllunio ar gyfer Fferm Solar Larnog o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg sy'n penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad anstatudol ar ein cynlluniau drafft. Nid yw’r holl atebion gennym eto, ond rydym yn awyddus i hysbysu pobl leol am ein cynlluniau yn gynnar yn y broses gynllunio, a chael trafodaethau cychwynnol am y prosiect.
Yn ystod haf 2026, byddwn yn cynnal yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn i ymgyngoreion ac aelodau'r cyhoedd roi adborth arno.
Mae'n ofynnol i Trydan lynu wrth yr un rheolau cynllunio llym y mae'n rhaid i ddatblygwyr preifat eu bodloni, ac rydym yn cael ein dal i'r un safonau.
Mae gwaith Trydan yn cael ei oruchwylio gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.