Trydan yw'r unig ddatblygwr gwynt ar y tir ar raddfa fawr sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru gyda ffocws unigol ar gyflawni dros Gymru.
Un o’i brif nodau yw datblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040 a chynnig buddion i'n cymdeithas, ein hamgylchedd, a'n heconomi, i bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.
Ydyn, maen nhw'n gallu gweithio hyd yn oed pan mae'n gymylog. Ym mis Tachwedd 2025, roedd pŵer solar yn bodloni 13.9% o alw trydan y DU.[1]
Mae paneli solar wedi'u cynllunio i amsugno cymaint o olau â phosibl ac i beidio â'i adlewyrchu. Gellir cynhyrchu llewyrch fel adlewyrchiad uniongyrchol o'r haul o wyneb y panel ffotofoltäig solar. Gall sgrinio gyda choed a gwrychoedd fod yn effeithiol iawn wrth helpu i osgoi llewyrch a fflachiadau.
Mae rhywfaint o sŵn yn cael ei gynhyrchu ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu, o'r traffig adeiladu a'r gwaith adeiladu ei hun, fel gosod y ffrâm sy'n cynnal y paneli solar i mewn yn y ddaear.
Unwaith y bydd y fferm solar wedi'i hadeiladu, ychydig iawn o sŵn sydd o'r safle. Fodd bynnag, byddwn yn ymgynghori â Chyngor Bro Morgannwg ynghylch unrhyw ofynion ar gyfer asesiad sŵn i gefnogi'r cais cynllunio.
Os bydd y cynnig yn cael caniatâd cynllunio, byddai'r gwaith adeiladu yn cymryd tua 6-9 mis.
Rydym wedi ystyried y golygfeydd o eiddo cyfagos yn ein dyluniad cynnar ar gyfer y safle. Yn ogystal â gosod paneli’n ofalus, bydd coed, gwrychoedd a seilwaith presennol yn cuddio llawer o'r golygfeydd tuag at y paneli solar.
Byddwn yn cynnal asesiad effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol i gefnogi'r cais cynllunio. Bydd hyn yn ystyried golygfeydd i'r safle ac oddi yno yn ogystal â golygfeydd o eiddo cyfagos.
Ydy, mae'r tir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i dyfu cnydau, er nad yw wedi'i ddosbarthu fel tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas. Mae'r tir ar y safle wedi'i ddosbarthu fel Gradd 3b a 4 o dan y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, sy'n golygu ei fod o ansawdd cymedrol i wael ar gyfer cynhyrchu cnydau. Bydd rhai ardaloedd o'r safle yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer cnydau (gwenith a haidd).
Yn wahanol i fathau eraill o ddatblygiad, nid yw ffermydd solar yn tarfu ar y ddaear fel na ellir gwrthdroi’r effaith. Mae ffermydd solar yn benthyg y tir, dros dro yw’r newid mewn defnydd tir, ac mae’n bosibl ei wrthdroi. Gan fod y tir amaethyddol o dan fferm solar mewn gwirionedd yn cael ei adael yn fraenar, gall iechyd y pridd wella. Yn dilyn oes weithredol y datblygiad, mae'r tir yn gallu dychwelyd i'w ddefnydd gwreiddiol mewn cyflwr gwell.[1]
[1] Solar Energy UK. 2022. Sesiwn Briffio Ynni Solar Cymru.
Byddwch. Ni fydd unrhyw lwybrau troed yn cael eu colli, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o wella'r llwybrau troed presennol a gwella cysylltedd ar draws y safle.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y paneli solar a'r holl seilwaith arall o'r safle yn ddiogel ar ddiwedd oes y prosiect. Byddwn yn nodi ein cynlluniau datgomisiynu yn ein cais cynllunio drafft.
Mae paneli solar wedi'u gwneud yn bennaf o ddeunyddiau fel alwminiwm, copr a gwydr. Mae gweithdrefnau ailgylchu sefydledig ar gyfer y deunyddiau hyn, ac mae'n dechnegol bosibl ailgylchu'r rhan fwyaf o banel solar. Mae'r diwydiant yn gweithio ar brosesau i sicrhau hyfywedd masnachol ailgylchu a chynyddu cyfradd, ac ystod, y deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu dros amser.[1]
Bydd y trydan a gynhyrchir yn Fferm Solar Larnog yn mynd i'r Grid Cenedlaethol drwy'r rhwydwaith grid dosbarthu lleol. O'r fan honno bydd yn mynd i ble mae'r galw, a allai fod yn lleol, neu ymhellach i ffwrdd yn y DU.